Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/465

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nglŷn â chyfarfod urddiad y diweddar Mr. Birrell o Liverpool, ac ar ol ciniaw cymerodd Dr. Raffles y gadair, a thraddodwyd amryw anerchiadau, ac er dychryn i Mr. Williams, galwodd Dr. Raffles arno ef i siarad. Yr oedd gwrid dwys gwyleidddra, a chariad at y brodyr ar ei wynebpryd pan gododd; sylwodd mai ychydig oedd ganddo i'w ddweyd, ond ei fod wrth wrando ar y siars i'r gweinidog yn methu peidio portreadu iddo ei hun y Meistr bendigedig yn y gwaith o esgyn i'r nef. Yr oedd yn dwyn i'w gof yr hyn a welsai yn fynych yn y wlad; y fam yn myned allan i dreulio'r hwyr yn nhy rhyw gymydog, ond yn gadael ei chalon ar ol yn y nursery gyda'r plant. Pan wedi cyrhaedd y glwyd fechan o flaen y ty, y mae yn rhedeg yn ol yn sydyn, yn taflu'r drws yn haner agored, ac yn galw yn uchel ar y forwyn gydag acen bwysig, serchoglawn, Mary! beth bynag wnewch chwi, gofalwch am y plant hyd nes y deuaf fi yn ol! Ac felly am galon gariadlawn y bendigedig Iesu. Yn awr ei ymadawiad nis gallasai lai na throi yn ei ol i ddweyd, Pedr! portha fy ŵyn! Pedr! uwchlaw pob peth, gofala am y plant, hyd oni ddychwelaf i'w cymeryd ataf fy hun! Dyna ddigon feddyliwyf i egluro yr hyn a olygwn wrth wneuthur gwirioneddau ysbrydol yn weladwy a chofiadwy, yn yr hon gelfyddyd y rhagorai Mr. Williams ar bawb eraill a gyfarfyddais. Pe bai hwn y lle priodol i siarad am danynt, y mae genyf adgofion dymunol, nid