Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/466

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ychydig, am ei gydoeswyr enwog, John Elias a Christmas Evans; y cyntaf yn ymresymwr manwl, yn frawddegwr penigamp, ac yn feistr ar areithyddiaeth; a'r ail yn rhyw Boanerges ardderchog, yn ddarluniwr digyffelyb, nwydau yr hwn a gludent bobpeth o'i flaen, a dychymyg yr hwn a wawdiai derfyn lle ac amser. A'u cymeryd oll yn oll, yr oedd y tri wyr hyn yn gyfryw ag y gallai unrhyw oes a gwlad yn hawdd ymfalchio ynddynt, y tri hyn—Elias, Evans, a Williams! O'r tri hyn i'm tyb i, y mwyaf ydoedd Williams."

Gwyddom y bydd i'r dyfyniad blaenorol o eiddo y diweddar Broffeswr Griffith, F.G.S., Barnet, ychwanegu yn ddirfawr at werth y gwaith hwn fel cyfraniad llenyddol tra gwerthfawr, a rhoddi boddlonrwydd anghyffredin, yn enwedig i'r rhai hyny o'n darllenwyr na chawsant y fraint o ddarllen y gyfrol Seisonig ragorol a elwir "Some of the great preachers of Wales."

Bod yn ddefnyddiol oedd prif amcan ein gwrthddrych. Defnyddioldeb oedd arwyddair mawr ei fywyd. Er na byddai yn hoffi pregethu yn Saesonaeg, eto o herwydd ei awydd i wneuthur daioni ar raddfa eangach, ni omeddai wneuthur hyny, a byddai fel y gwelsom yn pregethu yn aml yn yr iaith hono. Hysbyswyd ni gan yr Hybarch D. Roberts, D.D. (Dewi Ogwen), Wrexham, ddarfod i Mr. Williams wrth bregethu Saesonaeg yn Nghapel Preshenlle, ddywedyd, "No one would