Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/467

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

think to compare the light of a 'ffyrling' candle with the light of the sun." Wrth fyned allan o'r capel dywedodd ei gyfaill enwog Dr. Jenkin wrtho, "You have put your foot in it again today with your English." "What did I today Jenkin?" gofynai yntau. "You said 'ffyrling' instead of farthing." "Oh! is that all, they all understand here what a 'ffyrling' is. The controversy between us is not of great importance, only a farthing." Yn un o'r rhai oedd yn gwrando ar Mr. Williams yn Preshenlle yr adeg hono, yr oedd bachgen ieuanc o ôf deallus iawn, yr hwn hefyd a gafodd y fraint y dydd hwnw o eistedd wrth yr un bwrdd a'r pregethwr enwog i gydginiawa âg ef, ac ystyriai y gwr ieuanc ei fod drwy hyny wedi ei anrhydeddu yn fawr. Daeth y bachgen ieuanc hwnw wedi hyny i gael ei adwaen drwy holl Gymru, fel y Parch. Robert Thomas (Ap Vychan), yr hwn yn ddiau, oedd yn un o bregethwyr enwocaf ein cenedl. Byddai effeithiau dwysion iawn i'w gweled ar ein brodyr y Saeson yn gyffredinol o dan ddylanwad gweinidogaeth Mr. Williams. Yr oedd rhywbeth yn swynol hyd yn oed yn ei wallau Seisonig, fel y mae yn hawdd deall oddiwrth ymofyniad rhyw foneddiges o gynulleidfa Dr. Fletcher yn Llundain wedi ei glywed y tro y cyfeiria Proffeswr Griffith ato, yr hon a ofynodd yn bryderus i'r Dr., "Where is that preacher, who in preaching on the religious instruction of the young,