Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/469

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XIX,

NODIADAU CYFFREDINOL AC AMRYWIOL.

Y CYNWYSIAD.—Mr. Williams yn pregethu yn yr Efail Newydd Ei ysbryd cyhoeddus—Hoffder at blant—Oedfaon hynod o'i eiddo yn Machynlleth, Penystryd, Llangwm, Nannerch, Ynysgau, Caergybi, Bodffordd, a Cana—Rhestr o'i destynau—Ei Hiraethgan

BU yr Annibynwyr a'r Methodistiaid yn cydgynal Ysgol Sabbathol yn yr Efail Newydd, Lleyn, ar un cyfnod. Ceid yno hefyd ambell bregeth gan weinidogion perthynol i'r ddau enwad a nodwyd. Yn y cyfamser ar ryw Sabbath neillduol, fel yr hysbyswyd ni gan y Parch. H. Hughes (M.C.), Brynkir, dysgwylid Mr. Williams yno i bregethu, ond er dysgwyl llawer, nid oedd un arwydd ei fod yn d'od erbyn yr awr benodedig. Fodd bynag, dechreuwyd yr oedfa gan hen bregethwr parchus perthynol i'r Methodistiaid, o'r enw Mr. Thomas Pritchard, y Nant; a chan nad oedd y pregethwr dysgwyliedig wedi ymddangos erbyn iddo orphen gweddio, cymerodd ei destun a dechreuodd bregethu, ond cyn iddo orphen rhagymadroddi, daeth Mr. Williams i fewn i'r ty. (Nid oedd yno gapel y pryd