Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/470

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwnw.) A phan welodd y llefarwr ef, daliwyd ef gan yr ofn hwnw, sydd bob amser yn dwyn magl gydag ef, a disgynodd ar ei eistedd ar unwaith, a hyny heb gymaint a dweyd "Amen" yn ddiweddglo i'w sylwadau. Pregethodd Mr. Williams yn hynod iawn y tro hwnw yn yr Efail Newydd, ond ni chlywsom beth ydoedd ei destun y waith hono. Nid ydym yn gwybod beth a barodd i'r Annibynwyr roddi yr Efail Newydd i fyny? Credwn eu bod hwy wedi dangos gormod o barodrwydd i roddi lleoedd i fyny ar fwy nag un achlysur. Boddlonai llawer o'r hen dadau Annibynol ar gasglu tyrfa i un lle canolog, ac y mae ffrwyth hyny i'w weled yn amlwg hyd heddyw, yn arbenig yn Lleyn ac Eifionydd. Buasai sefydlu achosion mewn lleoedd newyddion yn fwy bendithiol na Jerusalemeiddio rhyw un lle neillduol. Ceir enghraifft o hyn yn ngwaith y Parch. Benjamin Jones, Pwllheli, yn cwyno yn dost wrth Mr. Rowland Hughes, Rhosgillbach; fod y gwr da hwnw "yn gwasgu yn rhy drwm ar ei wynt ef," a hyny oblegid ei fod wedi penderfynu codi capel yn Rhoslan; er mwyn arbed cerdded i Bwllheli; a chofier fod oddeutu wyth milldir o ffordd rhwng y ddau le. Pe y buasai cy doeswyr Mr. Williams, o'r un ysbryd cyhoeddus âg ef, buasai ein henwad yn llawer cryfach yn y Gogledd heddyw nag ydyw, ond y mae genym i ogoneddu Duw am yr hyn a wnaeth Mr. Williams a'r Parchedigion William