Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/471

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hughes, Dinasmawddwy; Owen Thomas, Carrog; William Hughes, Saron; David Griffith, Bethel; William Ambrose, Porthmadog, ac eraill yn y ffordd hon. Elai Mr. Williams o amgylch y wlad, ac yr oedd fel udgorn floedd, yn galw y tyrfaoedd yn nghyd i wrando yr efengy 1. Ond ymfoddlonai llawer o'r tadau ar athrawiaethu yr efengyl yn dawel i'w pobl eu hunain, gan "warchod gartref yn dda wrth gwrs, ond heb erioed deimlo awydd myned i'r prif—ffyrdd a'r caeau, fel y gwnaeth ein gwron. Yr oedd un peth neillduol yn nodwedd amlwg yn Mr. Williams, na welir ond mewn ychydig o'n pregethwyr mwyaf poblogaidd, sef ei hoffder arbenig o blant. Ymhyfrydai mewn chwareu gyda hwy ar adegau am oriau. Clywsom Mr. W. Rogers, Bryntirion, Coedpoeth, yn adrodd am dano yn chwareu felly gyda nifer o blant pan ar ei ffordd i'r gyfeillach grefyddol, ac wedi iddynt orphen â'r chwareu, aethant gyda'u gilydd i'r capel. Rhoddir hefyd enghraifft o'r nodwedd yma oedd ynddo, gan y Parch. S. Roberts, Nant, mewn ysgrif ragorol o'i eiddo yn y Dysgedydd, 1892, tudalen, 277, 278, dywed, ddarfod i Mr. Williams roddi haner coron i un o blant yr ardal, yr hwn a bregethai y dydd hwnw i'w gyd—blant pan oeddynt yn "chwareu capel." Ie, "tal da yn yr oes hono. Diamheu i Williams ei hun bregethu am lai lawer tro." Onid oedd Henry Ward Beecher a Mr. Williams, yn hyn o beth, yn tebygu i'w gilydd.