Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/472

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwyddai y gwyr enwog os gallent lwyddo i enill calonau y plant, mai nid hir y byddent heb enill yr eiddo eu rhieni hefyd. Os deallai Mr. Williams am ryw eglwys wanach na'i gilydd yn rhywle, ymdroai lawer gyda hono er mwyn ei maethu a'i chalonogi. Llafuriodd yn galed, a hyny heb dderbyn dim byd tebyg i dal teilwng am ei wasanaeth gwerthfawr. Treiddiodd ei ysbryd rhyddfrydig ef yn ddwfn i'w enwad, ac effeithia yn ddaionus arno hyd heddyw, yn y rhyddfrydigrwydd a arddengys at enwadau eraill. Yr oedd undeb yr enwadau crefyddol â'u gilydd yn hen syniad yn ei feddwl ef, ac fel pob gwir arweinydd, yr oedd yn mhell o flaen ei oes, canys gweithiodd yn egniol o blaid rhai o'r symudiadau pwysig, sydd heddyw, fel pe ar fedr cymeryd ffurf ymarferol yn ein gwlad. Pan y byddai yn myned drwy y wlad, telid iddo warogaeth fel i dywysog, a gallasai ddywedyd, "Pan awn i allan i'r porth trwy y dref, pan barotown fy eisteddfa yn yr heol, llanciau a'm gwelent ac a ymguddient, a henuriaid a gyfodent, ac a safent i fyny; tywysogion a atalient eu hymadroddion, ac a tosodent eu llaw ar eu genau." Pregethai Mr. Williams unwaith yn Machynlleth, ar ddyfodiad y Barnwr i'r farn. Yn mhlith y dyrfa fawr oedd yno yn gwrando, yr oedd Mr. Rowland Hughes, yr hwn a ddaeth wedi hyny yn bregethwr parchus gyda'r Annibynwyr yn Nolgellau, ond y pryd