Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/473

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwnw, oedd yn fachgen bychan yn llaw ei dad. Darluniai y pregethwr ddyfodiad y Barnwr i farnu y byd gyda rhyw sobrwydd anghyffredinol. Y fath ydoedd ei ddarluniad byw a chyffrous, nes y trodd y bachgen bach at ei dad gan ofyn iddo yn ddychrynedig, "Ddaw o heddyw nhad?" Byddai yn pregethu yn aml nes newid cyfeiriad bywyd llawer o'i wrandawyr. Methodd Sian Ellis o Faentwrog ag aros i gadw y ffair wedi ei wrando yn traethu ar Ffelix a ddychrynodd. Yr oedd y ffair ar ei meddwl yn rhwystr iddi wrando y bregeth, ac yr oedd y bregeth yn rhwystr iddi gadw y ffair dranoeth, a'r bregeth a orchfygodd, ac aeth hithau adref o'r ffair, wedi methu ymryddhau oddiwrth y saethau a lynasent yn ei chalon oddiar fwa gweinidogaeth rymus Mr. Williams yn Mhenystryd y nos Sabbath blaenorol. Teyrnasodd dychryn yn ardal Llangwm am dalm o ddyddiau wedi i'n gwrthddrych fod yn pregethu yn Nhyddyn Eli ar y geiriau, "Canys eu pryf ni bydd marw, a'u tân ni ddiffydd."

Yn Nhyddyn Eli, yn un o'r rhai oedd yn gwrando y bregeth uchod, yr oedd dyn, yr hwn oedd heb fod feddianol ar synwyr fel y cyffredin o ddynion, a dywedai 'Amen' yn fynych ar ddechreu y bregeth, a hyny mewn lle hollol anmhriodol. Wrth glywed hyny, dymunodd Mr. Williams ar i bawb ymatal rhag dweyd Amen,' a llwyddodd yn yr amcan oedd ganddo drwy hyny i'w gyrhaeddyd.