Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/474

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn fuan wedi yr oedfa hono, darfu i'r dyn hwnw, o herwydd y diffyg meddyliol oedd arno, arwyddo gweithred (deed) i drosglwyddo ar ei ol eiddo i ddyn nad oedd ganddo hawl gyfreithlawn i'w drosglwyddo iddo. Achosodd hyny gryn derfysg yn mhlith y rhai oeddynt yn dal cysylltiad â'r mater. Dygwyd yr achos i'w brofi mewn llys cyfreithiol. Gwysiwyd hen forwyn i Dr. George Lewis, Llanuwchllyn, yr hon oedd yn yr oedfa i dystio ddarfod iddi glywed Mr. Williams, Wern, yn Nhyddyn Eli, yn erfyn ar i bawb ymatal rhag dweyd 'Amen' a hyny er ceisio atal y dyn crybwylledig rhag gwneud hyny. Bu ei thystiolaeth yn foddion i gynorthwyo y rheithwyr i benderfynu o blaid cyfiawn berchenog yr eiddo.

Fel y canlyn y dywed Mr. R. Jones (Penrhyn), Wern, am oedfa o eiddo ein gwrthddrych yn Nannerch: "Y mae yn gofus i mi glywed fod Mr. Williams yn pregethu ryw noson waith yn nghapel Nannerch, hen gapel sydd yn aros hyd heddyw, a bod yno yn gwrando hen wr duwiol, yr hwn oedd yn aelod gyda'r Wesleyaid, a elwid yn gyffredin Yr hen Josua,' nid o anmharch, ond yn hytrach o ryw fath o anwyldeb. Yr oedd ef yn un o hen gymeriadau gwresog y dyddiau gynt, ac arferai waeddi O diolch,' 'bendigedig,' a 'gogoniant' bron yn mhob oedfa. Darluniai Mr. Williams gyda difrifwch dwys, gyflwr anobeithiol y colledigion yn uffern, pryd y