Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/475

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cododd yr hen Josua,' ei ddwylaw i fyny, gan waeddi, 'O diolch, diolch.' Ymataliodd Mr. Williams am enyd, a thremiodd ar yr hen frawd, a dywedodd, 'Wn i ddim frawd a ddylid diolch am beth fel hyn ai peidio.' 'O, dylid,' meddai yntau, ' diolch yr ydwyf nad wyf fi ddim yno, machgen i.' Trydanodd hyny yr holl gynulleidfa. Oedfa i'w chofio am byth oedd yr oedfa hono. Cafodd Mr. Williams ei foddhau yn fawr yn atebiad yr hen Josua,' a'i lwyr argyhoeddi o'i ddidwylledd." Bu tro hynod yn Ynysgau, Merthyr Tydfil, yn nglŷn â phregeth o'i eiddo oddiar y geiriau, "A llawer o'r rhai sydd yn cysgu yn llwch y ddaear a ddeffroant, rhai i fywyd tragwyddol, a rhai i warth a dirmyg tragwyddol.' Pregethai yn y ffenestr, yr hon a wynebai at y fynwent sydd yn nglŷn a'r capel. Yr oedd yr effeithiau yn rhai hynod iawn, fel yn wir yr arferent fod yn aml o dan y bregeth hono. Rhedodd dyn annuwiol mewn dychryn mawr allan o dafarn oedd yn ymyl y capel, i wrando ar y pregethwr. Yr oedd y fath sobrwydd yn teyrnasu ar bob wyneb yn y lle, fel yr oedd yn amlwg fod arswyd y farn wedi eu dal oll am enyd, beth bynag. Tyner ac effeithiol tuhwnt i ddesgrifiad oedd ei bregeth yn Nghaergybi, oddiar y geiriau, "A chwychwi yw y rhai a arhosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau." Sylwodd ar brofedigaethau personau unigol, phrofedigaethau teuluol, a bod gan yr Arglwydd