Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/476

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Iesu ei brofedigaethau yn ei achos gwan yn y byd; a'i fod yn canmol y rhai a arosant gyda'i achos yn ei brofedigaethau. Yn ei wrando y noson hono, yr oedd dynes grefyddol, yr hon oedd newydd briodi, a newid ei henwad, gan fyned i ganlyn ei phriod at enwad arall. Wedi iddi ddyfod adref o'r oedfa dan sylw, dywedodd wrth ei phriod, "Rhaid i mi fyned yn ol i fy hen gapel, gan mai yr achos yno sydd yn awr yn wan, ac mewn profedigaethau;" a hi a ddychwelodd i aros gyda'r Iesu yn ei "brofedigaethau" yn y lle hwnw dros weddill ei hoes. Fel pob pregethwr athrylithgar, byddai Mr. Williams weithiau yn ddihwyl, ac yn y pant. Arferai Mr. John Evans, arweinydd y gân yn Nghapel y Wern, ddywedyd, am dano, na chlywodd efe neb yn gallu rhoddi yr emynau allan mor effeithiol ag efe, a hyny yn wastadol. Ond darllenwr gwallus ydoedd, a braidd yn drwsgl y cyflawnai yr adran hono o'i waith cyhoeddus. Nid pob Sabbath ychwaith y ceid ganddo bregethau arbenig yn ei gylch cartrefol, oblegid nid oedd yntau ond dyn, ac yr oedd yn rhaid iddo fel eraill ddyoddef y boen sydd yn canlyn bod yn yr iselderau ar adegau. Ond yn lled fynych, ceid ganddo bregethau gwir ysblenydd yn ei gylch cartrefol, a dywedai bethau yn y pregethau hyny, y cofid am danynt byth. Byddai felly hefyd ar ei deithiau cyhoeddus. Yn wir, clywsom y Parch. Henry Rees, Bryngwran, yn dweyd iddo glywed