Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/477

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei ddiweddar dad yn nghyfraith, Edeyrn Mon, yn adrodd fel y bu ef yn cyrchu Mr. Williams o Gaergybi, ar ryw ddydd gwaith, erbyn deg ar y gloch, i bregethu yn Salem, Bryngwran. Dywedodd Edeyrn Môn wrtho ar y ffordd, fod llawer iawn o bobl i'w gweled yn myned i'r oedfa, ond ni wnaeth ef nemawr ddim sylw o hyny, ond yn unig ocheneidio yn llwythog. Cyrhaeddwyd i'r capel, a phregethodd Mr. Williams, ond yn hynod ddieffaith, y boreu hwnw. Yr oedd i bregethu yn Bodffordd am ddau ar y gloch prydnawn yr un dydd. Penderfynodd Edeyrn Môn fyned yno hefyd i wrando arno. Pregethodd yn Bodffordd mor anghyffredin ac effeithiol, a dim a glybuwyd erioed o bulpud, yn gymaint felly, fel na buasai neb o'r bron yn credu mai yr un dyn oedd yn pregethu yn Bryngwran y boreu ag oedd yn Bodffordd y prydnawn. Onid yw hyn yn cadarnhau dywediad yr enwog Thomas Binney, sef mai nid yn fynych yr anrhydeddir neb â rhwyddineb i bregethu ddwywaith yr un dydd.

Ar un o'i deithiau olaf yn Lleyn ac Eifionydd, ymwelodd Mr. Williams âg Abererch, a phregethodd yno ar nos Sabbath, ar y geiriau, "A chyfrifwch hir amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth, megys ag yr ysgrifenodd ein hanwyl frawd Paul atoch chwi, yn ol y doethineb a rodded iddo ef. Megys y mae yn ei holl epistolau hefyd, yn llefaru ynddynt am y pethau hyn, yn y rhai