Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/478

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y mae rhyw bethau anhawdd eu deall, y rhai y mae yr annysgedig a'r anwastad yn eu gwyrdroi, megys yr Ysgrythyrau eraill, i'w dinystr eu hunain." Yn nghwrs ei bregeth dywedodd, "Buasai yn beth rhyfedd iawn gweled saer yn naddu ei ffon riwl i gyfateb i gamedd ei waith, oblegid unioni ei waith i gyfateb i'r ffon riwl y bydd ef, ond ysywaeth y mae llawer yn naddu yr Ysgrythyrau santaidd i gyfateb i'w syniadau ceimion hwy, a hyny er dinystr iddynt eu hunain." Yr oedd y capel a'r pentref yn llawn o bobl o bell ac agos, a phregethodd ein gwrthddrych yn y ffenestr. Clywsom Robert Williams, Abererch, yr hwn oedd yn yr oedfa, yn dweyd fod yr effeithiau o dan bregeth hono yn rhai hynod mewn dwysder a difrifwch ar yr holl dyrfa fawr. Adroddodd Mr. Thomas Martin, pregethwr parchus yn Cana, Mon, wrthym, am bregeth hynod iawn o eiddo Mr. Williams yn Cana, sef yr un y cyfeirir ati yn flaenorol yn y gwaith hwn gan yr Hybarch Robert Hughes, Gaerwen. Ymddengys mai testun Mr. Williams y tro hwnw ydoedd Exod. xiii. 17—18. Pan yr oedd yn darlunio y tywyllwch yn yr Aipht, teimlai y bobl fel pe y buasai y tywyllwch hwnw yn amgau am danynt, nes yr oedd y lle yn ofnadwy mewn gwirionedd, ond pan y dechreuodd ddarlunio gwaredigaeth y genedl o'r Aipht, dan arweiniad Duw, llenwid pob calon â gorfoledd.

Dengys y rhestr ganlynol o'i destynau, yr hon