Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/480

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr oedd yn perthyn iddo ef hefyd odidawgrwydd nad yw yn addurno gweinidogaeth neb ond y rhai hyny sydd yn tynu eu nerth oddiwrth Dduw, ac yn ddiau, yma y trigai prif gryfder a gogoniant ein gwrthddrych fel pregethwr, ac y mae rhoddi darluniad cywir o hono yn yr areithfa pan wedi ei wisgo â nerth o'r uchelder, yn orchwyl nas gallwn ei gwblhau. Ymhyfrydai Mr. Williams mewn adrodd yr hanesyn am y Parch. John Griffith o Gaernarfon yn ymneillduo i weddio cyn pregethu. Mewn llythyr o'i eiddo atom, dywed yr Hybarch D. M. Davies, Talgarth, iddo ef ei glywed yn adrodd yr hanesyn hwnw unwaith wrth bregethu yn Aberystwyth, pryd y dywedodd:—"Clywais am Mr. Griffith, tad y gwr yma," meddai, gan roddi ei law ar ysgwydd y Parch. William Griffith, o Gaergybi, "Ei fod i bregethu mewn ty anedd un noson, ac iddo ddymuno cael ymneillduo i ystafell wrtho ei hun cyn dechreu y cyfarfod, yr hyn a ganiatawyd iddo ar unwaith. Gan nad oedd yn dychwelyd erbyn yr amser penodol i anerch y gynulleidfa oedd wedi dyfod yn nghyd, anfonodd gwr y ty y forwyn i'w ymofyn, yr hon, pan aeth at ddrws yr ystafell, a dybiai ei bod yn clywed dau yn ymddyddan â'u gilydd, ac un yn dywedyd wrth llall, Nid af oni ddeui gyda mi, nid af oni ddeui gyda mi.' Dychwelodd y forwyn yn ol at ei meistr, a dywedodd, 'Y mae rhywun gyda Mr. Griffith, ac y mae yn dywedyd wrth hwnw na