Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/481

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddaw ef ddim os na ddaw hwnw gydag ef, ac ni chlywais i y llall yn dywedyd un gair wrtho, felly nid wyf fi yn meddwl y daw oddi acw heno.' daw, daw,' ebe y meistr, ac fe ddaw y llall gydag ef mi wrantaf, os ydyw wedi myned felly, ni a ganwn ac a ddarllenwn i aros y ddau." O'r diwedd daeth y pregethwr allan o'i ystafell, a daeth ei Dduw gydag ef hefyd. Bu yno oedfa nerthol, yr hon a fu yn ddechreuad diwygiad yn yr ardal, ac yn foddion dychweliad llawer o eneidiau at Dduw. Yr oedd yr effaith a ddilynodd yr adroddiad o'r hanesyn o enau Mr. Williams y pryd hwnw yn orthrechol ar y dyrfa fawr yn Aberystwyth. Barnwn mai am y credai yn ddiysgog, mai drwy orchfygu gyda Duw yn gyntaf, y gellir gorchfygu hefyd gyda dynion, oedd y rheswm ei fod mor hoff o adrodd yr hanesyn uchod, yn gystal a'i fod am wasgu yr angenrheidrwydd ar i bob pregethwr wneuthur yn yr un modd. Gweddïai y pregethwyr gynt lawer yn eu pregethau hefyd. Teimlwn fod y sylw a ganlyn o eiddo Dr. Probert, yn ei draethawd buddugol ar "Y Weinidogaeth yn Nghymru," tudalen 98, yn un llawn o ystyr:—"Gellid meddwl fod y gweinidogion gynt yn gweddio mwy yn eu pregethau, ac yn pregethu llai yn eu gweddiau na'r rhai presenol. Ni orphenent hwy braidd yr un sylw heb offrymu gweddi fer am fendith, ac ni ellir beio llawer ar weddi mewn pregeth, beth bynag ellir ddweyd am bregeth mewn