Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/482

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweddi." Fodd bynag, gallasai Mr. Williams orchymyn fel Constantine, ar fod i'w gerflun gael ei gerfio mewn agwedd gweddi ar ei liniau, er dangos mai drwy weddi yr enillodd ef ei fuddugoliaethau a'i enwogrwydd anfarwol. Rhoddwn yma Hiraethgan y Parch. W. Rees, D.D. (Gwilym Hiraethog), ar ol ein gwrthddrych. Byddai yn rhyfyg ynom ni i ddweyd dim am ei theilyngdod, ond yr ystyrir hi yn mysg goreuon y dosbarth hwn o farddoniaeth, ac hefyd, yr ystyriwn ninau hi yn coroni pob peth a ysgrifenwyd am Mr. Williams; ac er ei bod wedi ymddangos mewn pump o leiaf o lyfrau gwahanol yn flaenorol, eto buasai yn anfaddeuol ynom i amddifadu darllenwyr y cofiant hwn o'r fath wledd anghydmarol:—

"WRTH im' eiste' i lawr i ddechreu
Ysgrifenu'r ganiad hon,
Mae rhyw lawer o deimladau
'N ymgynhyrfu dan fy mron,
Fel am redeg draws eu gilydd,
Am y cynta'i flaen y bys;
Ar y papyr, maent mewn awydd
Cael ymddangos gyda brys.

Cariad, hiraeth, tristwch calon,
Digter, llonder, yn gytun,
Ni fedd iaith ar eiriau ddigon
I roi enw ar bob un;
Buont fel yn gwresog ddadlu
Enw p'un roid ar y gân; R
Rhoddwyd ar yr awen farnu—
Hiraeth aeth â'r dydd yn lân.