Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/496

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XX.

PREGETHAU.


PREGETH I.

"UNOLIAETH Y DRINDOD."

"Oblegid y mae tri yn tystiolaethu yn y nef, y Tad, y Gair, a'r Ysbryd Glan: a'r tri hyn un ydynt."—1 Ioan v. 7.

MATER a gadarnheir gan chwech o dystion yn yr adnod hon a'r un ganlynol ydyw, gwirionedd yr efengyl, neu ynte yn ol geiriau Ioan yn adnod 11, fod Duw yn gwneuthur cynygiad diffuant o fywyd tragwyddol i fyd o bechaduriaid drwy gyfryngdod ei Fab. Y tyst cyntaf o wirionedd hyn yw y Tad yn ei waith yn danfon ei Fab i'r byd (Ioan iii. 10); yn ei ddryllio am ein pechodau ni, ac yn ei dderbyn drachefn i'r nef i eistedd ar ei ddeheulaw. Yr ail dyst ydyw, y Gair tragwyddol a wnaethpwyd yn gnawd, yr hwn yn ei fywyd, ei angeu, ei adgyfodiad, a'i esgyniad i'r nef, sydd yn cadarnhau yr un gwirionedd. Y trydydd tyst o hyn ydyw yr Ysbryd Glan, yr hwn sydd yn gosod ei sel wrth weinidogaeth Crist a'i apostolion. Y mae hefyd, "dri ar y ddaear" yn profi gwirionedd yr efengyl. Yn gyntaf, ei "hysbryd," sef y cyfnewidiad y mae yn ei wneuthur ar ysbrydoedd dynion pan y mae yn cael ei phriodol effaith arnynt. Y mae yn gwneuthur y llew yn addfwyn fel oen. Yr ail yw, "y dwfr," sef purdeb yr efengyl. Y mae yn taro