Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/497

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

at wraidd pob pechod. Y trydydd yw, "y gwaed," sef y tangnefedd y mae yr efengyl yn ei ddwyn i'r gydwybod drwy ddal allan Iawn addas a digonol ar gyfer y penaf o bechaduriaid. Yn y tri pheth hyn y mae y grefydd Gristionogol yn rhagori ar bob crefydd arall yn y byd, sef yn yr ysbryd rhagorol y mae yn ei fagu yn ei deiliaid yn y santeiddrwydd y mae yn ei gymhell arnynt—ac yn yr heddwch y mae yn roddi i'r gydwybod drwy waed Crist; ond i ddychwelyd at y testun, yn

I. YMDRECHAF BROFI O'R YSGRYTHYRAU DWYFOL FOD TRI O BERSONAU YN Y DUWDOD.

Wrth Berson yr wyf yn deall, un yn ymwybodol o hono ei hun, yr hwn y mae ei ddewisiad a'i weithrediadau yn eiddo iddo ei hun, ac nid i arall, neu yn ol y Drd. Paley a Wardlaw, person yw un a chyneddfau personol ganddo, megys gallu i feddwl, dewis, bwriadu, caru, casâu, &c., oblegid y mae y galluoedd hyn yn cyfansoddi Personoliaeth; a rhaid fod yr hwn sydd yn eu meddu yn Berson. [1]

1. Sonir am Dduw yn yr Ysgrythyrau santaidd yn y rhif luosog. Dywed awdwyr fod y gair Elohim, y gair Hebraeg am Dduw, yn y rhif luosog, ac yn cael ei arfer yn yr Hen Destament ddwy fil o weithiau, megys "Cofia yn awr dy greawdwyr yn nyddiau dy ieuenctyd, " Preg. xii. 1. Llawenhaed Israel yn ei wneuthurwyr," Esa. liv. 5, &c.

2. Cynwysa y Beibl lawer o ymddyddanion personol fu rhwng y personau dwyfol, megys "Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain," Gen. i. 20. "Wele y dyn sydd megys un o honom ni," Gen. iii. 22. "Deuwch, disgyn

  1. Gwel Paley's Natural Theology, Chap. xxiii. tudalen 408. Dr. Wardlaw's Discourses on the principal points of the Socinian Controversy, tudalen 281, 282.