Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/498

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wn, a chymysgwn yno eu hiaith hwynt," Gen. xi. 7. "Pwy a anfonaf, a phwy a ä drosom ni?" Esa. vi. 8, a xli. 22, 23. "Dywedodd yr Arglwydd eistedd ar fy nheulaw," Salm cx. 1; Heb. i. 13; Gen. xix. 24, &c.

3. Y mae enwau personol yn cael eu rhoddi i bob un o'r personau dwyfol, megys Tad, Mab, a'r Ysbryd Glan. Nid enwau iddynt eu hunain ydyw y rhai hyn, i ymwahaniaethu y naill oddiwrth y llall, o herwydd y mae y personau dwyfol yn tragwyddol adnabod eu gilydd heb un enw, ond enwau i ni ydynt, wedi eu rhoddi yn Meibl pechadur i ddangos dull y personau o weithredu yn nhrefn iachawdwriaeth. Nid ydym i ddeall yr enwau, Tad, Mab, ac Ysbryd Glan, yn yr un modd a'r enwau Jehofa a Duw, &c. Y mae yr enwau hyn mor briodol i'r naill berson ag i'r llall, ac yn fynych yn cael eu priodoli i bob un o honynt, o herwydd mai enwau ydynt i ddarlunio, nid eu swyddau, ond eu natur ddwyfol, yr hon sydd yn perthyn i bob un o'r personau fel eu gilydd. Ond y mae'r enwau Tad, Mab, ac Ysbryd Glan, yn enwau personol—pob un yn perthyn i un person yn unig, ac yn dangos ei swydd yn holl weithredoedd Duw, ond yn neillduol yn iachawdwriaeth dyn, yr hon yw y benaf o ffyrdd Duw. Mae yr enw Tad yn dangos ei fod ef yn gweithredu yn ei swydd fel y person cyntaf, mai efe ydyw y ffynonell a'r achos cyntaf o holl weithredoedd y Duwdod, ei fod yn cynal, ac yn gofalu am ei deulu, gan amddiffyn iawn lywodraeth yn eu mysg, a'i fod fel Tad, yn barod i dosturio wrth ei blant afradlon. Mae yr enw Mab yn dangos fod yr ail berson o'r un natur a'r Tad, ei anwyldeb gan y Tad, ei barodrwydd i ufuddhau i ewyllys y Tad, ac mai efe oedd yr unig berson addas i fod yn Gyfryngwr rhwng Duw a dynion, ei