Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/499

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

unig Fab ydyw. Gelwir y trydydd person yn Ysbryd Glan, nid am ei fod yn lanach neu yn fwy ysbrydol ei natur na'r personau eraill, ond i ddangos mai efe yw bywyd crefydd, a phob rhinwedd yn yr enaid, fel y mae yr ysbryd naturiol yn fywyd i'r corff, ac mai glanhau a phuro pechaduriaid yw ei waith yn nhrefn iachawdwriaeth. Y mae yr enw Duw yn cael ei roddi yn amlach yn yr Ysgrythyrau i berson y Tad nag i'r personau eraill, o herwydd ei fod ef yn Dduw mewn natur ac mewn swydd. Y mae y Mab yn Dduw mewn natur, ond Cyfryngwr ydyw mewn swydd. Felly hefyd, y mae yr Ysbryd Glan yn Dduw mewn natur, ond Argyhoeddydd, Dyddanydd, a Santeiddydd ydyw mewn swydd. [1] Diddadl fod gan y personau dwyfol reswm anfeidrol deilwng o honynt eu hunain am ddewis gweithredu fel y maent yn nhrefn iachawdwriaeth, ond nid amlygwyd hyny i ni.

4. Mae y rhagenwau personol, myfi, tydi, efe, &c., yn cael eu rhoddi mor aml iddynt yn yr Ysgrythyrau, fel na raid i mi eich cyfeirio atynt.

5. Mae gweithredoedd personol yn cael eu priodoli iddynt i'r Tad garu y byd, a rhoddi ei Fab i fod yn iachawdwr i'r byd; i'r Mab ddyfod i'r byd, marw dros bechaduriaid, adgyfodi o'r bedd, eiriol ar ddeheulaw y Tad, a dyfod i farnu y byd. Fod yr Ysbryd Glan yn cael ei ddanfon

gan y Tad yn enw y Mab, i argyhoeddi, dyddanu, a thywys ei bobl i bob gwirionedd.

II. UNOLIAETH Y DRINDOD.

1. Maent yn un mewn natur. Yn gyd-ogyfuwch a chyd-dragwyddol. Er fod lluosogrwydd o bersonau dynol yn y byd, eto nid oes ond un natur ddynol. Felly, er fod tri o bersonau yn y Drindod,.

  1. Gwel Bellamy's True Religion Delineated, tudalen 228.