Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/500

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nid ydynt yn dair dwyfoliaeth. Un natur ddwyfol sydd yn bod, a hono yn perthyn i bob un o'r tri pherson yn yr un modd.

2. Y maent yn un mewn gwybodaeth. Y mae pob un o'r tri yn gwybod, ac yn adnabod pob peth yn berffaith yr un modd a'u gilydd; a chan nad yw eu gwybodaeth yn gwahaniaethu mewn dim, un ydyw; eithr pe y buasai yn gwahaniaethu, yna ni buasai yn un.

3. Y maent yn un o ran agwedd calon. Maent o'r un golygiadau moesol am bob peth, ac yn berffaith o'r un syniad calon am danynt eu hunain, a phob peth a fu, y sydd, neu a ddichon fod, o ganlyniad, un ydynt.

4. Y mae yn rhaid eu bod yn un mewn ewyllys'. A chan nad ydynt yn gwahaniaethu yn eu hewyllys mewn dim, ond yn berffaith gyd-ewyllysio pob peth yr un modd; felly un ewyllys yw, er fod tri a gallu ganddynt i ewyllysio.

5. Y maent yn berffaith unol mewn arfaeth a bwriadau.

6. Y maent yn un mewn meddianau ac achos. "A'r eiddo fi oll sydd eiddo ti, a'r eiddo ti sydd eiddo fi," Ioan xvii. 10. Er fod gan y personau bendigaid wahanol swyddau yn nhrefn iachawdwriaeth, eto, un achos mawr ydyw, yn perthyn i bob un fel eu gilydd; ac y mae y naill yn gogoneddu y llall ynddo; "Y Tad, daeth yr awr, gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo dy Fab dithau," Ioan xvii. I. "Efe a'm gogonedda i, canys efe a gymer o'r eiddof, ac a'i mynega i chwi," Ioan xvi. 14.

7. Y maent yn un mewn cariad. Mae pob un o honynt yn caru y lleill yn berffaith, ac i'r un graddau ag y mae yn ei garu ei hun, a rhaid of ganlyniad mai un cariad 'yw.

8. Y maent yn un mewn gogoniant. Pan yr