Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/501

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydym yn anrhydeddu y Tad a'r Ysbryd Glan; ac wrth anrhydeddu yr Ysbryd Glan, yr ydym yn anrhydeddu y Tad a'r Mab; o herwydd un orsedd, ac un goron sydd gan y tri pherson. Ac os ydym yn rhoddi gogoniant i un o'r personau dwyfol, yr ydym yn rhoddi gogoniant i'r holl natur ddwyfol, o herwydd un natur ddwyfol sydd yn bod.

Crybwyllaf bellach rai o'r pethau ag y mae athrawiaeth y Drindod yn ei dysgu i ni.

(1.) Mai undeb y Drindod yw yr undeb anwylaf ac agosaf yn yr holl fydysawd. Nid yw pob undeb arall ond megys arliw gwan o hono, ac yn diffoddi fel canwyll ganol dydd wrth ei gymharu âg ef. Y mae mor hawdded i ni gynwys y Duwdod ag ydyw i ni amgyffred agosrwydd ac anwyldeb yr undeb hwn. Tragwyddol ymfwynhad y personau Dwyfol, eu hymddigrifiad a'u hymhyfrydiad y naill yn y llall oedd eu nefoedd ddiddechreu cyn bod y byd, "Yna yr oeddwn i gydag ef megys un wedi ei feithrin gydag ef, ac yr oeddwn yn hyfrydwch iddo beunydd, yn ymlawenhau ger ei fron ef bob amser," Diar. viii. 30.

(2.) Mai o undeb y Drindod y mae pob undeb rhinweddol yn tarddu. Ymhyfrydodd y Personau Dwyfol gymaint yn eu gilydd, nes y dywedant,

Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain," Gen. i. 26.

Gen. i. 26. Gwnawn ef yn greadur cymdeithasgar a chymhwysderau ganddo i garu ac ymhyfrydu ynom ni, ac yn ei gyd-readuriaid.

(3.) Mai undeb y Drindod yw y cynllun gogoneddus yn ol pa un y mae yr Ysbryd Glan yn dwyn yn mlaen undeb yr eglwys, "Fel y byddont oll yn un megys yr wyt ti y Tad ynof fi, a minau ynot ti, fel y byddont hwythau un ynom ni," Ioan xvii.

Dyma y cynllun mawr wrth ba un y mae yr eglwys i gael ei pherffeithio yn un, Ioan xvii. 23;