Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/502

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nes y bydd "yn wr perffaith at fesur oedran cyflawnder Crist," Eph. iv. 13.

(4.) Y mae athrawiaeth y Drindod yn dysgu y dylem ninau ymgyrhaedd at undeb, fel y byddom yn ol ein graddau yn tebygoli i'r personau dwyfol.

(5.) Ei fod o bwys mawr i ni gael golygiadau eglur a chywir ar athrawiaeth y Drindod, o herwydd nas gallwn heb hyny gael golygiadau cyson ar drefn yr iachawdwriaeth. Y mae llawer yn meddwl nad yw yn ddyledswydd arnynt i chwilio na phregethu yr athrawiaeth hon; ac mai peth dirgelaidd ydyw, ac na pherthyn i neb dynion ei gwybod. Pe felly, ni buasai Duw yn ei datguddio ni yn ei Air, ond gan i Dduw ei datguddio, ein dyledswydd ni ydyw ei chwilio. Y mae yn wir ei bod uwchlaw ein hamgyffred ni, ond felly y mae pob peth sydd yn perthyn i'r Duw anfeidrol. Pethau amlwg i ni a'n plant yw pethau y datgudd—iad dwyfol; ac y mae yn perthyn i bob dyn ar y ddaear eu gwybod. Pe na buasai Duw am i ni eu gwybod, ni buasai yn son gair am danynt. Dylem ochelyd gwneuthur dirgeledigaethau o'n dychmygion, yn gystal a cheisio gwybod pethau na ddat—guddiwyd. Na fyddwn Babyddion—Beibl i bawb yw y Beibl, a phethau i bawb eu chwilio sydd yn gynwysedig ynddo. Gweddiwn am i'r Ysbryd Glan ein tywys i bob gwrionedd