Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/503

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PREGETH II.

"CYSYLLTIAD CYFATEBOL RHWNG IAWN YMARFERIAD O FODDION A LLWYDDIANT."

"A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, yr hwn sydd yn hau yn brin, a fed hefyd yn brin; a'r hwn sydd yn hau yn helaeth, a fed hefyd yn helaeth' 2 Cor. ix. 6.

Y MAE cysylltiad o ddau fath rhwng hau a medi. Un yw cysylltiad rhywogaeth, " canys beth bynag a hauo dyn, hyny hefyd, a fed efe," Gal. vi. 7, 8. Y llall yw cysylltiad graddau, a dyna y cysylltiad a olygir yn y testun. Oddiwrth y geiriau sylwaf yn

I. FOD CYSYLLTIAD CYFATEBOL RHWNG YMARFERIAD O FODDION A LLWYDDIANT.

1 Yn gyfatebol i'r cyflawn ymarferiad o foddion yr ydym yn dysgwyl llwyddiant. Pa mor dda y mae yr amaethwr yn deall y gyfundraeth hon, efe a ŵyr nas gall efe ddysgwyl ei gnwd i'w ydlan heb arfer yr holl foddion a drefnodd awdwr natur i hyny; eto, mae dynion mewn pethau ysbrydol yn dysgwyl bendith pan y maent yn esgeuluso mwy na haner y moddion, drwy ba rai y mae Duw yn bendithio ac yn llwyddo. Mae'n rhaid fod ansawdd calonau dynion yn ddrwg, onide hwy a ddeallant mor dda y cysylltiad sydd rhwng arfer moddion yn nhrefn yr iachawdwriaeth a bendith, ag sydd yn ngwaith yr amaethwr yn nhrefn Rhagluniaeth. Pe na byddai yr amaethwr yn arfer mwy o foddion tuag at gael cnwd, nag y mae y rhan fwyaf yn ein gwlad yn ei arfer yn ysbrydol tuag at gael bendith, efe a ystyrid yn dra ynfyd.

2. Yn gyfatebol i'r amserol ymarferiad o foddion yr ydym yn dysgwyl am lwyddiant. Hynod mor