Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/504

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ofalus yw yr amaethwr i ddefnyddio yr adeg oreu, o herwydd efe a ŵyr fod cysylltiad angenrheidiol rhwng hyny a'i lwyddiant. Pa faint sydd wedi colli eu defnyddioldeb, ïe, a'u heneidiau am byth, o eisieu na buasent yn amserol yn ymaflyd yn yr adeg! Faint o blant sydd yn tyfu i fyny yn annuwiol o eisieu na buasai eu rhieni a'r eglwys yn amserol yn arfer pob moddion er eu hachub. mae y meddyg yn ymddibynu yn fawr am lwyddiant i iachau y claf, ar ei fod yn cael cyfleusdra i arfer ei foddion yn amserol. Ond nid llai y mae symud ymaith afiechyd pechod ynom ni ein hunain, ac eraill hefyd, yn ymddibynu ar yr amserol ymarferiad o foddion.

3. Yn gyfatebol i'r diwyd a'r gwastadol ymarferiad o foddion y llwyddwn. Hen egwyddor gyffredin a phrofedig yw, "Llaw y diwyd a gyfoethoga," Diar. x. 4. "Enaid y diwyd a wneir yn fras," Diar. xiii. 4. Pe yr arferid yr un diwydrwydd mewn pethau crefyddol ag a welwn yn gyffredin mewn pethau naturiol, byddai wyneb ein daear yn fuan yn debyg i wyneb y nefoedd.

4. Yn gyfatebol i'r diragrithrwydd yn yr ymarferiad o foddion y gallwn ddysgwyl am lwyddiant. Yr oedd y Phariseaid yn ymarfer â llawer o foddion, ond yr oeddynt mor llawn o ragrith a hunanglod, fel nad oedd ganddynt le cyfreithlawn i ddysgwyl am fendith. Mynych y dywedodd yr Arglwydd wrth Israel, "Ceisiwch fi hefyd, a chwi a'm cewch, pan y'm ceisiwch â'ch holl galon."

5. Yn gyfatebol i'r teimlad fyddo ynom o'n hymddibyniad ar ddwyfol ddylanwadau yn yr ym—arferiad o foddion y llwyddwn. Y mae y rhai'n mor angenrheidiol er ein hachub ag oedd i Grist farw drosom. Y mae yr Arglwydd wedi bod yn ofalus iawn drwy oesoedd y byd er argyhoeddi ei