Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/505

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bobl, "mai nid drwy lu, ac nid drwy nerth, ond drwy ei ysbryd ef y maent i lwyddo," Zech. iv. 6. Mae yn rhaid i bob Cristion ddysgu y wers hon, er gorfod prynu ei ddysg yn lled ddrud, "Canys nid â'u cleddyf eu hun y goresgynasant y tir, nid eu braich a barodd iachawdwriaeth iddynt, eithr dy ddeheulaw di, a'th fraich, a llewyrch dy wyneb, o herwydd i ti eu hoffi hwynt," Salm xliv. iii.

6. Bydd ein llwyddiant yn gyfatebol i'r lle a fyddwn yn roddi i Grist yn ein holl ymarferiad o foddion. Os ychydig o Grist a fydd yn nghyfundraeth ein moddion, ychydig fydd ein llwyddiant cyn y byddo pethau yn myned yn mlaen yn iawn, rhaid iddo ef gael y flaenoriaeth yn mhob peth, Col. i. 13.

Yn ol y lle a fyddo Crist yn ei gael yn ein gweddiau y llwyddant; yn ol y lle a gaiff yn ein pregethau y llwyddant; a thyna y prif achos fod yr apostolion mor llwyddianus Crist wedi ei groeshoelio. Y mae un o Indiaid America, o'r enw Tschaap yn rhoi hanes ei ddychweliad fel y canlyn:—"Yr wyf wedi bod yn hen bagan," ebai efe, ac mi a wn pa fodd y mae paganiaid yn arfer meddwl; daeth cenadwr unwaith atom, a dywedodd am y drwg o ladrad, celwydd, a meddwdod, nid oedd hyny yn effeithio dim arnom, oblegid ni a wyddem o'r blaen fod hyny yn bechod. Ond wedi rhyw gymaint o amser daeth y brawd Henry Rauch atom, ac a ddechreuodd ddywedyd am gariad Crist, a'i fod wedi marw dros bechaduriaid, a bod ei waed yn abl i lanhau oddi wrth bob pechod. Yr oedd hyn yn wahanol iawn i'r hyn a glywsom o'r blaen ac yn effeithio ar fy nghalon yn fawr. Yr oedd y pethau hyn yn fy meddwl yn barhaus pan yn effro, a breuddwydiwn am danynt pan yn fy nghwsg. Mi a'u cyfieithais i'r Indiaid eraill, yr