Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/506

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn a effeithiodd yn yr un modd arnynt hwythau hefyd, a hyn a fu drwy ras, yr achos cyntaf o ddeffroad yn ein mysg. Yna, meddai wrth y cenadon, os ydych am i'r gair lwyddo yn mhlith y paganiaid, pregethwch Grist a'i ddyoddefiadau yn Waredwr i'r penaf o bechaduriaid. [1] Mae yn dra sicr mai i'r graddau y pregethir Crist, yn ysbryd Crist y llwydda pawb.

7. Yn gyfatebol i daerineb ein gweddiau y llwyddwn; "Llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn." Pa daeraf y byddo'r weddi, mwyaf i gyd a fydd y llwyth o fendithion a dyn i lawr. Yn ol ei daerineb y llwyddodd Jacob. Fe lwyddodd taerineb gyda'r barnwr anghyfiawn, er nad ofnai Dduw ac na pharchai ddyn.

Pa faint mwy y llwydda taerineb gyda'r hwn sydd yn ffynon y cariad, a'r tosturi sydd yn mynwes pob Cristion. Yr ydym ni yn fynych yn gweddio yn rhy debyg i blant tre' yn chwareu, y rhai heb un neges, ond o gellwair a gurant wrth ddrws eu cymydog, a chyn y caffo neb amser i agor rhedant ymaith, felly nid ydyw gweddiau llawer ond megis chwareu plant. Ond y mae'r gweddiwr taer yn penderfynu aros wrth ddrws trugaredd hyd farw, ei iaith yw "Safaf ar fy nysgwylfa ac ymsefydlaf ar y twr, a gwyliaf, i edrych beth a ddywed efe wrthyf," Hab. ii. I.

8. Bydd ein llwyddiant,, yn gyfatebol i hyder ein gweddiau. Y mae sail ein hyder yn gwbl allan o honom ein hunain. Duw, yr hwn a addawodd yw sail ein llwyddiant, ac nid yr hyn y'm ni. Pan y mae genym addewid gwr, ei garictor sydd genym i ymwneud ag ef er cynyrchu hyder ynom, ac nid beth y'm ni. Efe oedd i edrych ar hyn cyn addaw, Y mae hyder pechadur mewn gweddi fel ffenestr

  1. Gwel Mr. Burder's Missionary Anecdotes.