Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/507

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fechan mewn tŷ, yn ol maint y ffenestr y bydd y goleu yn dyfod i mewn; felly yn ol maint ein hyder y llwyddwn ninau yn ein gweddiau drosom ein hunain, a thros eraill; y mae y geiriau "yn ol dy ffydd bydded i ti," yn eu grym heddyw yn gystal ag erioed. Gweddi y ffydd a egyr y llaw sydd yn dal y bydoedd, ac a ddetyd gloion pyrth y nefoedd ac a dyn y nefoedd i lawr i'r ddaear, ac a gyfyd y ddaear i fyny i'r nefoedd.

II. I DDANGOS PA MOR BELL Y MAE'R CYSYLLTIAD YN EFFEITHIO.

1. Mae yn effeithio ar ein crefydd bersonol yn ol fel y byddom yn ymarferyd â moddion, fel a nodwyd o'r blaen, y llwyddwn i gael cymdeithas â Duw, ac felly y cynyddwn ar ei ddelw, ac mewn cysur a dedwyddwch. Yna "bydd ein heddwch fel afon, a'n cyfiawnder fel tònau y môr," Esa. xlviii. 18.

2. Mae yn sicr o effeithio ar ein teuluoedd. Os prin a fyddwn yn yr ymarferiad o'r moddion a drefnodd Duw i wellhau ein teuluoedd, prin fydd y llwyddiant. Y mae yr Arglwydd wedi addaw bod yn Dduw i'w bobl, ac i'w had, Gen. xvii. 7, "Had y cyfiawn a waredir," Diar. xi. 21, "Tywalltaf fy ysbryd ar dy had, a'm bendith ar dy hil—iogaeth," Esa. xliv. 3. Ni bu Duw erioed yn anffyddlon i'w addewidion, ond ni a fuom anffydd—lon i'w gyfamod ef, gan ei bechu ef allan o'n teuluoedd. Mae Duw yn ymhyfrydu bod yn Dduw y teulu, am hyny mae yn fynych yn cyfenwi ei hun yn Dduw Abraham, Isaac, a Jacob. Ni bydd iddo byth ymadael o'r teulu, oddieithr i ni ei yru ef ymaith â'n pechodau.

3 Gwna effeithio ar yr eglwys i ba un yr ydym yn perthyn, a'r gymydogaeth yn mha un yr ydym yn byw. Yn of fel yr arferom y moddion a drefn-