Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/508

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

odd Duw i wellau y byd y llwyddwn er diwygio yr eglwys yr ydym yn aelodau o honi, a'r wlad yr ydym yn preswylio ynddi. Pa faint o ddaioni a wnaeth un Paul, un Luther, un Whitfield, un Wesley, un Brainerd, a llawer eraill o enwogion mewn duwioldeb a defnyddioldeb a allesid enwi. Pa beth a'u gwnaeth hwy yn fwy defnyddiol nag eraill? Ai o herwydd fod ganddynt gryfach galluoedd eneidiol nag eraill? Nage, mwy duwiol oeddynt nag eraill, ac am hyny y gwnaethant well defnydd nag eraill o'r moddion trefnedig i wellhau y byd. Gallasent hwythau fod yn fwy defnyddiol pe y buasent yn fwy duwiol. Hefyd, gallai pob un o honom ninau fod mor ddefnyddiol a hwythau yn ol ein manteision a'n sefyllfaoedd, pe y byddem mor dduwiol a hwy. Mae pob dyn duwiol yn tystiolaethu y dylai fod yn fwy defnyddiol, a'i alar yw na byddai felly.

4. Fe effeithia ein dull ni o ymarfer y moddion a drefnodd Duw er diwygio y byd ar yr oes sydd yn cyfodi i fyny, ac oddi yma yn mlaen hyd ddiwedd y byd. Mae yr had da a hauodd Abraham, Moses, Samuel, a'r prophwydi, ie, yr apostolion hefyd, y merthyron, a'r diwygwyr, yn ffrwytho yn doreithiog yn y byd hyd heddyw; yr un modd y gwna ein llafur ninau effeithio oddiyma hyd y farn. Unrhyw gynhyrfiad a wnawn yn nheyrnas y Messiah er ei chychwyn hi yn mlaen, a bery yn ei effeithiau arni hyd ei ail—ddyfodiad ef. Fe fydd medi oddiwrth yr Ysgolion Sabbathol, Cymdeithasau y Beiblau, a'r Cymdeithasau Cenadol a ffurfiwyd yn ein hoes ni, hyd ddiwedd amser. Pe buasem ni ag eraill yn yr oes hon yn hau yn helaethach yn y pethau hyn, buasai mwy o gnwd o dduwiolion yn yr oes nesaf, ac felly yn mlaen hyd ddiwedd y byd.