Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/509

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

5. Fe effeithia ar ein sefyllfa ddyfodol yn y nefoedd am byth. Dangos hyn ydyw prif amcan dameg y punoedd (Luc xix. 12—20). Ond nid yr un amcan sydd i ddameg y talentau (Matthew XXV. 14—30). Amcan y ddiweddaf yw dangos nad yw pawb yn cael yr un manteision, ac mai yn ol ein manteision y bydd y Barnwr yn gofyn oddi-wrthym yn y farn; ond amcan y llall yw dangos fod rhai yn gwneuthur gwell defnydd o'u breintiau nag eraill, ac yn ol hyny y byddant yn cyfodi mewn graddoliaeth yn y nefoedd byth. Wrth yr hwn a enillodd ddeg punt y dywedodd ei Feistr, "Bydded i ti awdurdod ar ddeg dinas;" ac wrth yr hwn a enillodd bump punt y dywedodd, "Bydd dithau ar bump dinas." Yr oedd hwn bump o raddau am byth yn is na'r hwn a wnaeth ei bunt yn ddeg punt. Rhoddi i bob un yn ol fel y byddo ei waith a wna Crist yn y byd hwnw. Bydd rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant. Pob modfedd o dir yr ydym yn golli yn bresenol drwy ein hesgeulus—dod, yr ydym yn ei golli am byth; ac fe fydd pob gronyn o ffyddlondeb yn y byd yma yn ein cyfodi i raddau anrhaethol o fwynhad mewn byd arall. I derfynu—

Mae yr hyn a draddodwyd yn berffaith gyson âg athrawiaeth gras, ac ag arfaeth. Oblegid gras a gyfansoddodd y moddion, gras sydd yn rhoddi cyfleustra i ni ddefnyddio y moddion, a gras hefyd sydd yn cynhyrfu dynion i'w hymarfer, "Canys Duw yw yr hwn sydd yn gweithio ynoch, ewyllysio a gweithredu o'i ewyllys da ef," Phil. ii. 13. gall fod ychwaith yn erbyn arfaeth; oblegid yr un arfaeth ag sydd wedi arfaethu y dyben, sydd hefyd wedi arfaethu y moddion i gyrhaedd y dyben. Os yw Duw wedi arfaethu mwy o dduwiolion i fod yr oes nesaf nag sydd yn yr oes hon, mae yr un Duw