Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/510

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi arfaethu i ni wneuthur mwy tuag at ddwyn hyny i ben na'r oes o'r blaen. Yr un llwybr sydd genym i wybod am arfaeth yn nhrefn gras, ag yn nhrefn Rhagluniaeth. Pe gofynid i ni am ddarn o fynydd, A arfaethwyd i wenith dyfu yno, ni fedrwn byth wybod hyny drwy rym penddysg (theory); yr unig ffordd i wybod hyny fyddai arfer y moddion a drefnodd Duw i gael cnwd ar y fath le; a'r casgliad diwrthddadl a wnaem, os ceid cnwd ar ei gyffelyb, y ceid cnwd arno yntau hefyd trwy arfer moddion priodol, gan wybod fod cysylltiad annatodadwy rhwng yr ymarferiad o foddion a llwyddiant. Yr un modd yr ydym i wybod am arfaeth yn nhrefn gras. Mae Duw wedi arfaethu na chaiff neb arfer y moddion a drefnodd efe yn ofer. Dyben Duw yn datguddio ei arfaeth i ni ydyw ein cynhyrfu at ein dyledswydd; os na fedrwn ni ei phregethu hi gystal a phob athrawiaeth arall yn y Beibl, yn anogaeth i bechaduriaid i wneuthur eu dyledswydd, y mae yn sicr nad ydym yn ei phregethu yn iawn; oblegid nid oes yr un gwirionedd yn y Beibl wedi ei ddatguddio er mwyn boddio cywreinrwydd dynion, ond er mwyn ymarferiad, er ein hanog ni at ein dyledswydd.

2. Dichon rhai dybied fod yr hyn a draddodwyd yn taro yn erbyn ffeithiau (facts). Ymddengys felly o herwydd ein hanwybodaeth o holl amgylchiadau pethau. Gallai llawer feddwl fod Noah yn fwy aflwyddianus na llawer a fu yn llai eu ffyddlondeb a'u diwydrwydd. Yma mae yn anghenrheidiol ystyried yr anfantais o dan ba un yr oedd Noah yn llafurio; y pryd hwn yr oedd yr holl fyd yn un ffrwd yn myned i uffern; yr oedd yn fwy peth iddo ef fod yn offeryn i achub un enaid, nag a fyddai i ni yn yr oes hon fod yn offerynau i achub bob un ei ganoedd, Dichon i eraill feddwl fod Pedr yn