Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/511

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fwy llwyddianus na Christ; ond dylem gofio mai myned i mewn i lafur Crist ac eraill a fu o'i flaen a wnaeth Pedr a'i frodyr; fe fu y prophwydi yn braenaru y tir, ac Ioan Fedyddiwr megys yn eu rhagflaenu, a Christ ei hun megys yn ei fwydo â'i chwys a'i ddagrau; ie, ac a'i waed; ac felly y dywedodd Crist am eu llwyddiant, "Canys yn hyn y mae'r gair yn wir, mai arall yw yr hwn sydd yn hau, ac arall yw yr hwn sydd yn medi. Myfi a'ch anfonais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch; eraill a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn i'w llafur hwynt," Ioan iv. 37, 38. Diamheu mai un o brif ancanion dydd y farn fydd dangos fod Duw wedi llwyddo pawb fel y darfu iddynt ymarfer y moddion i hyny, a bod pob un wedi gwneud drwg yn y byd yn ol fel y darfu iddo esgeuluso neu gamarfer y moddion, er nad ydyw yn ymddangos i ni felly yn mhob amgylchiad yn bresenol, o herwydd diffyg adnabyddiaeth o'n gilydd ac o amgylchiadau pethau. Bydd yn ddigon amlwg yn y farn, paham y mae plant llawer o broffeswyr a phregethwyr yn awr mor annuwiol. Ymddengys hyn pan ddelo'r holl ddirgeloedd i'r amlwg.

3. Mae yn dangos mai wrth ein drysau ni y mae yr achos o'r aflwyddiant, ac nid wrth ddrws Duw. O herwydd pe buasem ni wedi gwneud ein dyledswydd tuag at ein perthynasau a'n cymydogion, buasai gwell agwedd arnynt heddyw; pe buasem ni yn fwy fel halen, buasai y byd yn bereiddiach heddyw; pe buasem ni fel canwyllau yn rhoddi gwell goleu, buasai y byd yn oleuach nag ydyw. Mae Duw yn llawn mor alluog i achub ag oedd, ac yn llawn mor barod ag oedd "Wele ni fyrhawyd llaw yr Arglwydd fel na allo achub; ac ni thrymhaodd ei glust ef, fel na allo glywed; eithr eich anwireddau chwi a ysgarodd rhyngoch chwi