Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/514

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o naturiaeth pob peth, ac anfeidrol allu sydd yn ei dal i fyny; nid gwiw cymeryd anogaethau a deniadau (motives) i lywodraethu y môr na'r elfenau eraill, ond nerth braich Hollalluog sydd raid ei gael i'w rheoli. Ond nid beth a ŵyr Duw, na pha beth a all ef, yw sylfaen ei lywodraeth foesol, ond sylfaen hon yw iawnder tragwyddol, neu yr hanfodol wahaniaeth sydd rhwng da a drwg, a deniadau, ac anogaethau sydd i'w dal i fyny, ac nid nerth; gwnai y radd leiaf o orfod (force) yn y llywodraeth hon ei dinystrio am byth, a chan mai anogaethau (motives) sydd yn dal i fyny y llywodraeth foesol, y mae yn anhebgorol angenrheidiol i'r llywodraethwr eu cynal yn eu llawn nerth mewn ymherodraeth mor eang ag yw y bydysawd. Wrth iawn i berson unigol (private person) y deallir y boddlonrwydd, neu'r atdaliad a dderbynir am y cam a gafodd yn ei eiddo, neu a ddyoddefodd yn ei gymeriad (character), fel nad ydyw yn golledwr, ond yn un a phe y buasai heb gael ei gamweddu erioed yn y mesur lleiaf. Ond wrth Iawn i gyfiawnder cyhoeddus (public justice), neu i lywodraeth, y deallir yr hyn a atebo ynddi holl ddybenion cosp; dyben cosp yw cadw iawn drefn yn y llywodraeth, ac nid llid personol at y troseddwr, neu aberthu iawn drefn yn y llywodraeth (yr hyn a fyddai aberthu ei holl ddedwyddwch ar unwaith), neu ynte gael rhywbeth a atebo yr un dyben a a chospi y troseddwr. Nid yw yn hanfodol i gyfiawnder i gospi y troseddwr yn ei berson ei hun, onide ni buasai lle i dros-osodydd (substitude), ond buasai raid i'r troseddwr ddyoddef, ac nid neb arall. Gofyniad cyfiawnder yw cospi yr euog, neu rywbeth a atebo yr un dyben a hyny yn y llywodraeth. Y mae cyfiawnder mor foddlon a thrugaredd i beidio a chospi y pechadur, ond iddo gael yr hyn