Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/515

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a atebo yr un dyben a'i gospi; hyd yma y mae cyfiawnder yn dyfod, naill ai cospi y troseddwr, neu dros-osodydd cyfaddas. Y mae bywyd ac angeu Emanuel, nid yn unig yn ateb cystal dyben a chospi yr holl droseddwyr, ond anrhaethol well; rhoddodd gryfach anogaethau i iawn-drefn na phe cawsent eu dinystrio oll; felly, y mae cyfiawnder wedi cael mwy nag oedd yn ei ofyn yn aberth y Cyfryngwr, yr hyn a gawn ei ddangos eto yn helaethach yn y sylwadau canlynol:—

1. Y mae'r lawn yn gwneuthur i garictor y deddfwr ymddangos yn ddiduedd ac anghyfnewidiol er maddeu i'r troseddwyr. Y mae gweinyddiad anwadal yn sicr o ddinystrio pob llywodraeth, pa un bynag a'i teuluaidd, gwladol, eglwysig, a'i moesol fyddo; os cospir heddyw yn y teulu am ryw drosedd, ac yfory yr unrhyw drosedd yn myned heibio yn ddisylw, cesglir yn fuan gan yr aelod lleiaf mai ar fympwy, ac nid ar iawnder y mae y llywodraeth wedi ei seilio. Pe cospid un troseddwr, ac arbed un arall, fe fernid y gweinyddiad yn bleidgar, ac mai llid personol a achosodd gospi rhai, ond bod yn well ganddo aberthu'r llywodraeth na chospi eraill. Ond

Ond y mae dyoddefiadau y Cyfryngwr yn berffaith ddiogelu carictor Duw, er maddeu i'r euog; ynddo ef y dangosodd ei fod yn berffaith ddiduedd a digyfnewid yn ei benderfyniadau i gospi pechod, a hyny yn yr uchaf o fodau, "Yr hwn nid arbedodd ei briod-fab, ond a'i traddododd ef trosom ni oll, ac os gwnaed hyn yn y pren îr, nid oes lle i ddysgwyl yr arbedir y crin, eithr yr Arglwydd a fynai ei ddryllio ef, efe a'i clwyfodd pan osododd efe ei enaid yn aberth dros bechod.

2. Y mae Iawn yn ei berthynas a'r llywodraeth, yn gwneuthur nad ydyw gweinyddiad maddeuant