Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/516

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn dirymu'r gyfraith, o herwydd mae cospi'r troseddwr yn hanfodol i gyfraith, neu gael yr hyn a fyddo yn gyfiawn gyfateb i hyny. Dyma y gwahaniaeth rhwng cyfraith a chynghor, sef nad oes un gosp yn gysylltiedig â'r naill, ond yn hanfodol i'r llall. Yr oedd yn rhaid i un o dri pheth gymeryd lle naill a'i cospi'r troseddwr, neu i'r gyfraith hono, "Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw a'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl nerth, ac â'th holl feddwl, â'th gymydog fel ti dy hun," gael ei throi am byth yn gynghor gwan a dirym, drwy holl ymerodraeth y Jehofah, neu ynte gael Iawn. Pan oedd dyn yn y bwlch cyfyng hwn y daeth Crist, gan ddywedyd (os oedd ei fywyd ef yn ddigon i ddiogelu y gyfraith, ac arbed y troseddwr), "Wele fi, anfon fi. Gwnaeth ef y fath lawn, gan ddangos cyfiawnder ac anghyfnewidioldeb gofyniadau a bygythion y gyfraith yn fwy grymus ac anrhydeddus wrth faddeu i'r euog, nag a fuasai suddo yr holl droseddwyr i ddinystr am byth.

3. Y mae Iawn yn gwneuthur nad yw gweinyddiad trugaredd a maddeuant ddim yn lleihau'r argraffiadau o ddrwg pechod. Y mae maddeuant ynddo ei hun yn tueddu i wneud hyny ar feddwl y troseddwr, yn nghyd a phawb a glywo'r hanes, heb rywbeth i wrthbwyso ar gyfer hyny; y mae hyn yn fynych i'w weled mewn teuluoedd; bydd y rhai hyny yn fynych yn dangos gwg yn eu gwedd, pan y mae eu calon yn llawn parodrwydd i faddeu, eto y mae arnynt ofn dangos hyn, rhag i'r bychan gasglu nad oes dim drwg yn y trosedd. Yn angeu y Cyfryngwr y mae drwg pechod yn ymddangos i'r graddau eithaf, y mae mwy o ddrwg pechod yn ymddangos wrth faddeu drwy angeu Crist nag wrth gondemnio y troseddwr anedifeir-