Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/517

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iol. Yma y mae pechod yn cael ei gondemnio, a'r pechadur yn cael ei gyfiawnhau.

4. Y mae yr Iawn yn gwneuthur gweinyddiad cyfiawnder a thrugaredd yn gyson a'u gilydd. Buasai raid i gyfiawnder heb lawn rwystro gweinyddiad trugaredd, neu i drugaredd ddinystrio gweinyddiad cyfiawnder am byth; heb Iawn, nis gallasai trugaredd weithredu i achub pechadur heb ddinystrio y gyfraith, ac nis gallasai cyfiawnder amddiffyn y gyfraith heb ddinystrio y pechadur; ond yn yr lawn y mae trugaredd yn rhedeg at ei gwrthddrychau, a chyfiawnder yn myned law yn Ilaw, gan hyfryd a chyson gydweithredu, ac ymgusanu yn nghyd wrth gofleidio y pechadur yn ei waed, Salm lxxxv. 10. Un yn datod ei rwymau a'r llall yn rhoddi olew a gwin yn ei glwyfau—

"A'r priodoliaethau mewn hedd,
O ochr trugaredd i gyd."

Yn yr lawn y mae Duw yn gyfiawn ac yn achubydd, gan ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn, fel y byddai efe yn gyfiawn ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu, Rhuf. iii. 26.

II. IAWN YN EI BERTHYNAS A GRAS AC ARFAETH.

Gras ydyw ffynonell achub, ac nid yw arfaeth ddim yn amgen na chynllun (plan) gras. gwahaniaeth rhwng bod rhesymol yn gweithredu a pheiriant (machine) sydd fel hyn y mae y cyntaf yn gweithredu yn ol cynllun, a'r olaf heb yr un. Pa beth bynag y mae Duw yn ei wneuthur mewn amser, sydd yn ol ei gynllun tragwyddol. Cyfrwng ydyw yr Iawn i sicrhau dyben gras ac arfaeth. Yr oedd gras erioed yn gyflawn o barodrwydd i achub, ond heb Iawn nid oedd ganddo fodd i sicrhau ei ddybenion. Yr oedd digon o barodrwydd mewn gras i ymgeleddu plant angen