Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/518

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y carchar, ond ni feiddiai dori y cloion. Yr oedd digon o agerdd (steam) cariad ynddo i gyfodi pechadur o bwll llygredigaeth, ond heb lawn ni feddai gras un cyfrwng i fyned ato. Y mae'r Iawn yn gyfrwng deublyg i sicrhau dybenion gras ac arfaeih, sef yn

1. Cyfrwng gweinidogaeth moddion. Heb Iawn ni chawsem byth Feibl, byth weinidogaeth y cymod, byth Sabbath, nac unrhyw foddion i achub. Pa fodd bynag—

2. Y mae'n sicrhau gweinidogaeth yr ysbryd i ddwyn dynion i wneuthur iawn ddefnydd o weinidogaeth moddion, er eu hiachawdwriaeth; canys Crist a ddywedodd, "Canys onid af fi, ni ddaw y Dyddanydd atoch; eithr os mi a äf, mi a'i hanfonaf ef atoch," Ioan xvi. 7. Yn y cyfrwng hwn y mae holl ddybenion arfaeth yn sicr ddiffael o gael eu cyflawni yn nghadwedigaeth yr eglwys, fel na bydd un o'i gwrthddrychau ar goll yn y dydd diweddaf.

III. YR IAWN YN EI BERTHYNAS A CHRIST EI HUNAN.

I. Yr lawn oedd sail ei ddyrchafiad. Mynych y priodolir dyrchafiad Crist i'r Iawn boddhaol a roddes efe i Dduw, megys yn y geiriau canlynol:—"Gan fod yn ufudd hyd angeu, ie, angeu y groes. O herwydd paham, Duw a'i tra dyrchafodd yntau, ac a roddes iddo enw, yr hwn sydd goruwch pob enw," Phil. ii. 8, 9. Trwy ei aberth y cyrhaeddodd efe yr orsedd fawr, lle "rhaid iddo deyrnasu hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed," I Cor xv. 25.

2. Yr lawn yw sicrwydd llwyddiant ei deyrnas, "O lafur ei enaid y gwel ac y diwellir; fy ngwas cyfiawn a gyfiawnha lawer drwy ei wybodaeth, canys efe a ddwg eu hanwireddau hwynt. Am