Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/519

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyny y rhanaf iddo ran gyda llawer, ac efe a rana yr yspail gyda'r cedyrn; am iddo dywallt ei enaid i farwolaeth," Esa. liii. II, 12. Y mae ei lawn wedi rhoddi y fath foddlonrwydd i Dduw fel y mae'n sicr o gael meddiant o'r noddfeydd cryfaf yn nheyrnas y diafol.

IV. YR IAWN YN EI BERTHYNAS A PHECHADUR.

Iawn yw yr unig sail i'r pechadur penaf nesau at Dduw, am faddeuant a gras i fyw yn dduwiol gyda hyder, Heb. iv. 16. Beth pe buasai yn rhaid i bechadur nesau at orsedd Llywydd y bydoedd am faddeuant a gras, a'r teimladau canlynol yn ei fynwes: Os gwrandewir fy ngweddi, y mae yn rhaid i Dduw aberthu ei garıctor drwy ei holl ymerodraeth am byth, a rhoddi ar ddeall i'w holl ddeiliaid, mai yn ol mympwy a phleidgarwch y mae yn gweinyddu llywodraeth, ac nid ar egwyddorion iawnder tragwyddol. Ac yn ganlynol, y byddai yn rhaid iddo faddeu ar draul diddymu y ddeddf; ac yn nesaf y byddai maddeu yn dileu argraffiadau o ddrwg y trosedd oddiar feddwl pawb a glywai'r hanes, a pheri anghydfod tragwyddol rhwng y priodoliaethau. Pa fodd y buasem byth yn gallu nesau at orsedd trugaredd ar y tir yma? Yn wir, ni feiddias—ai yr un dyn gonest byth ddyfod; ond i Dduw y byddo'r diolch, y mae'r holl gymylau tywyll hyn wedi eu chwalu, a'r holl rwystrau wedi eu symud o'r ffordd. Y mae cymeriad y Jehofah yn ymddysglaerio yn fwy gogoneddus wrth faddeu i'r euog drwy aberth y Cyfryngwr, nag wrth ei ddamnio. Y mae maddeu mewn Iawn yn tueddu i gynyrchu mwy o barch i'r gyfraith, a gadael argraffiadau dyfnach o ddrwg pechod ar feddyliau dynion ac angylion, nag a fyddai damnio yr holl fyd. Gall y pechadur penaf fyned at orsedd trugaredd mewn hyder duwiol, a gofyn i Dduw wneuthur iddo yr