Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/520

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn a fyddo fwyaf er ei ogoniant. Dyma ddadl werthfawr i'r euog yn ngwyneb anghrediniaeth, ar ben dau lin wrth grefu am drugaredd.

2. Iawn yw'r anogaeth gryfaf i edifeirwch dioed a bywyd duwiol. Pwy a ddichon edrych ar Grist yr hwn a wanasant, heb alaru am eu beiau; yma y mae cariad Crist yn ein cymhell ni i fywyd santaidd a defnyddiol yn fwy grymus na holl felldithion y gyfraith, ac na holl boenau'r uffernolion; pwy all garu pechod a meddwl am ddyoddefiadau anrhaethol Emanuel dros ein pechodau ni, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw. Os na lwydda pregethu Crist wedi ei groeshoelio i enill pechaduriaid ato, nis gellir dysgwyl y llwydda unrhyw foddion eraill. Casgliadau:—

1. Ei fod o bwys mawr i gael golygiadau Ysgrythyrol ar Athrawiaeth yr Iawn yn ei holl berthynasau. Ystyria un hi yn ei pherthynas â'r llywodraeth yn unig, fel pe na byddai un berthynas rhyngddi a gras ac ag arfaeth; ac eraill a siaradant am dani yn ei pherthynas a gras ac arfaeth yn unig, ac fel cyfrwng i sicrhau cadwedigaeth yr Eglwys, heb ei golygu yn ei holl berthynasau eraill. Diau y bydd pob un yn dweyd y gwir, ond nid yr holl wir.

2. Dylai athrawiaeth yr Iawn gael y lle blaenaf a phenaf yn ein gweinidogaeth. Yn gyfatebol i hyn y bydd ein llwyddiant fel gweinidogion.

3. Dylai fod yn beth blaenaf mewn crefydd ymarferol. Yn gyfatebol i'r lle a gaiff yr athrawiaeth hon ar ein meddyliau y cynyddwn yn mhob rhinwedd crefyddol, tuag at Dduw a dynion; y mae cymdeithas dyoddefiadau Crist yn sicr o'n dwyn i gydymffurfio â dyben ei farwolaeth.