Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/521

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PREGETH IV.

"FFYDD ELIPHAZ Y TEMANIAD."

"A wna gwr lesâd i Dduw, fel y gwna y synwyrol lesâd iddo ei hun? Ai digrifwch ydyw i'r Hollalluog dy fod di yn gyfiawn? neu ai elw dy fod yn perffeithio dy ffyrdd."—JOB xxii. 2—3.

MAE y geiriau hyn wedi eu llefaru gan un o gyfeillion Job—Eliphaz, fel yr ydys yn barnu, un o hiliogaeth Teman ŵyr Esau. Yr oedd efe yn athrawiaethu yn dda, yn nghyda'r lleill o'i gyfeillion, ond yr oedd yn cyfeirio ei saethau yn gamgymeriadol a chyfeiliornus, yr hyn sydd yn dra hawdd wrth gyfeirio at bersonau neillduol. Yr oedd ef yn barnu Job yn rhagrithiwr, pryd yr oedd ef yn wr duwiol. Yr oedd yn cymeryd achlysur oddi wrth rai daliadau o eiddo Job, i farnu ei fod yn cyfiawnhau gormod arno ei hun ac yn golygu Duw dan rwymau i ymddwyn yn wahanol i fel yr oedd yn gwneuthur. A thuag at ei argyhoeddi ef o hyny, y mae Eliphaz yn dwyn yn mlaen eiriau y testyn, ac yn gofyn y fath ofyniadau ag sydd yn eglur brofi nad yw Duw yn ddyledwr i neb o'i greaduriaid o herwydd dim a allent hwy ei wneuthur iddo. Fe all y synwyrol fod o les mawr iddo ei hun, ac i eraill a fydd yn dal perthynas âg ef, ond nid i Dduw. Nid ar ein hymddygiadau cyfiawn ni y mae digrifwch Jehofa wedi ei sylfaenu, ond ynddo ei hun; ac ni all dyn fod o un elw i Dduw trwy ei onestrwydd neu berffeithrwydd, na gosod rhwymedigaeth ar y Goruchaf i'w wobrwyo am ei wasanaeth, fel y mae meistr gyda'i was gonest a diragrith am ei waith ef. Yr athrawiaeth a gaf fi ei hegluro ar bwys y geiriau, ydyw, na all