Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eraill y Cwm. Deuai hyny i'r golwg ynddo mewn rhyw gywreinrwydd neillduol, drwy ei waith yn cynllunio adeiladau ffugiol i'r anifeiliaid, gan osod coed yn gywrain iawn ar ochr allanol mur y ty, fel moddion sicr, i ddal y da corniog yn eu lleoedd priodol. Arferai gynllunio llawer yn yr adeg dan sylw, gan arddangos yn foreu, y duedd athronyddol oedd mor naturiol iddo, a'r hon a ddaeth mor amlwg i bawb ynddo ar ol hyn. Os gellir ystyried dyn yn meddwl drosto ei hun, gan chwilio achosion ac egwyddorion pethau allan,—eu cysoni â'u gilydd, ac nid cymeryd yr eiddo eraill yn ganiataol, yn athronydd, yn ddiau, yr oedd ein gwrthddrych yn nodedig fel athronydd er yn ieuanc.