Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD II.

EI FYNEDIAD YN SAER COED, A'I ARGYHOEDDIAD 1791—1794.

Y CYNWYSIAD—Natur yn amgylchoedd cartref ein gwrthddrych yn cael aros heb ei llychwino gan law dyn—Y trigolion gynt yn ymgadw yn ffyddlon i natur mewn bwydydd a gwisgoedd Cedyrn yn preswylio yma gynt—Ein gwrthddrych yn fyw i bob peth natur—Yn penderfynu myned yn saer coed—Ei hyfrydwch yn ei gelfyddyd—Dyfod i wybodaeth helaethach o'r natur ddynol wrth ddilyn ei grefft— Arferion annuwiol yn yr ardal—Anrhydeddu y gwŷr a enillent yn y campau llygredig Yn anhawdd ymgadw rhag cymeryd rhan ynddynt—Y tylwythau teg a'r swynyddion—Ysbrydion yn ymddangos mewn lleoedd neillduol yn yr ardal—Y dylanwadau yr ydoedd ein gwrthddrych yn agored iddynt—Heb gael addysg foreuol—Ysgolion yn ychydig ac yn anaml y dyddiau hyny—Manteision crefyddol yn Llanuwchllyn—Eglwys Penystryd yn ganghen o eglwys Llanuwchllyn—Rhys Dafis yn pregethu yn Medd-y-coedwr—Ein gwrthddrych yn yr oedfa—Gwr a gwraig y ty yn ofni iddo derfysgu yr addoliad—Lewis Richard yn ei gyrchu yn nes i gyfeiriad y tân—Y testun y pregethwyd arno, a'r emyn a ganwyd ar ddiwedd yr oedfa—Y llanc wedi ei