Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

derfysgu yn ei enaid gan y gwirionedd—Bedd-y-coedwr mewn lle unig ac anghyspell—Ychydig o fanylion am helyntion bywyd a symudiadau Rhys Dafis Ei lafur a'i nodweddau—Ei farwolaeth a'i gladdedigaeth—Ei weithredoedd da yn trosglwyddo ei goffadwriaeth yn barchus i'r oesau a ddelo ar ol.

Y MAE natur yn amgylchoedd cartref ein gwrthddrych enwog yn cael llonyddwch i wisgo ei gwisgoedd naturiol a dihalog, heb ei llychwino nemawr gan gelfyddyd ddynol. Erys y mynyddoedd a'r bryniau fel cynt, ag eithrio gwaith aur Gwynfynydd, a llifa yr afonydd yn yr un cyfeiriad tua'r mor-eu cartref cyntefig. Ymgadwai y trigolion hefyd, gynt, yn ffyddlon i natur yn eu bwydydd a'u gwisgoedd. Eu bara ceirch a'u caws a fwyteid ganddynt, a'u diod o ddwfr a llaeth oedd sicr iddynt. Gwisgai y meibion eu huganau llwydion, eu cotiau cynhes, a'u llodrau pen glin, oeddent o ddefnydd gwisg gochddu y ddafad, a'u botymau oeddent fel bathodau Eisteddfodol, yn ganfyddedig o bell ar eu gwisgoedd.

Y merched, hwythau, oeddent fedrus i drin y droell fawr a'r droell fach, a cheisient wlan a llin, gan ei weithio â'u dwylaw yn ewyllysgar, yn wisgoedd, fel y gallent, o herwydd nerth ac anrhydedd. eu mentyll clyd, chwerthin yn yr amser a ddaw, gan herio ystormydd o wyntoedd a gwlawogydd.

Trigai y trigolion mewn aneddau llonydd, heb