Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddim i dori ar eu tawelwch, ond swn y daran gref, a'r gwynt ystormus ar amserau, bref y ddafad, a chyfarthiad ci y bugail. Anaml y byddent yn gweled dyeithr-ddyn yn tramwyo heibio i dynu eu sylw. Cedyrn oedd yn preswylio yn y cymoedd hyn yr amser hwnw, a gwelir ambell un o'u gwehelyth yn aros eto, fel dangoseg o'r hyn ydoedd y lluaws gynt.

Gallwn yn deg ddychmygu, fod un mor nwyfus ag ydoedd ein gwron, yn ei fachgendod, yn rhwym o fod yn un byw iawn i bob peth natur. Gwyliai yr amser i'r adar i nythu, a deallai yn fuan, yn mha le yr oedd trigle eu nythod cywrain. Dysgwyliai yn bryderus am glywed y gog yn canu ei deunod am y waith gyntaf yn y tymhor, ac os byddai ganddo geiniog neu ddimai yn ei logell ar y pryd, llawenhai yn fwy. Hyfrydwch iddo oedd gwrandaw y fronfraith a'r fwyalchen amrywiol eu seiniau, yn telori yn y goedwig islaw ei gartref. Y cornchwiglod a'r gylfinhir yn chwibianu dros y fro yn uwch i fyny. Gwrandawai ar griciad y rhedyn yn crecian gerllaw iddo, ac er pob ymdrech, nid hawdd oedd cael yr un o honynt i'w law, na'u hymlid o'r terfynau. Ond llwyddai weithiau i sawdelu ambell i neidr i farwolaeth. Yr oedd dal y brithilliaid yn yr afonydd, a chasglu y cnau oddiar y coed, yn rhan o hyfrydwch a gwaith tymhor ei fachgendod. Ond aeth y tymhor hyfryd hwnw heibio, a daeth yn angenrhaid arno yntau, fel eraill o blant y Cwm,