Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i ymwregysu at waith mwy neillduol, a meddwl am ryw orchwyl er ei gynaliaeth. Wedi ystyriaeth briodol ar du ei rieni, a chael ei foddlonrwydd yntau, penderfynwyd ei ddwyn i fyny yn saer coed. Ymhyfrydai yn fawr yn ei gelfyddyd, a chyrhaeddodd gryn fedrusrwydd ynddi. Daeth hefyd, wrth ddilyn ei grefft o'r naill amaethdy i'r llall yn y gymydog- aeth, i feddiant o wybodaeth helaethach a chywirach o gilfachau dirgel a dyrus y natur ddynol, ac er nad oedd y cylch newydd y troai ynddo, heb ei beryglon a'i brofedigaethau, eto, profodd yn fanteisiol iddo, yn yr adnabyddiaeth fanwl a helaeth a gafodd efe o'r ddynoliaeth yn ei gwahanol agweddau, pan yr oedd efe wrth y gwaith o saernio celfi hwsmoniaeth, yn y naill fan a'r llall i amaethwyr ei wlad.

Anurddid yr ardaloedd hyn, fel llawer o ardal- oedd eraill yn yr oes hono, gan arferion annuwiol o eiddo y trigolion, drwy eu gwaith yn treulio y Sabbathau i gyflawni campau ac arferion llygredig -megys chwareu cardiau, interliwdiau, y bel droed, rhedegfeydd ceffylau, ac ymladdfeydd ceil- iogodd. Gwelir hyd heddyw hen safle Pit ceiliogod heb fod yn nebpell o Gapel Penystryd. Yn ychwanegol at y pethau uchod, yr oedd Gwyl mab Santau mewn bri ar y Sabbathau, lle y ceid y bibell, y delyn, a'r ddawns yn nghyd; ac yn fynych, meddwai y cwmni, a diweddid mewn ymladdfeydd mileinig rhwng dynion â'u gilydd. Ac hefyd, nid oedd gywilydd ganddynt bitchio a choetio ar ddydd