Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Duw. Anrhydeddid y gwyr a enillent y gamp yn yr ymdrechfeydd ffol ac annuwiol uchod, a rhoddid iddynt le amlwg yn ymddyddanion yr aelwydydd, a siaredid am danynt fel rhai yn haeddol o barch dau ddeublyg am eu gwrhydri. Nid hawdd ydoedd i fachgen ieuanc nwyfus ymgadw heb eu hedmygu hyd at gymeryd rhan yn yr arferion niweidiol, gan obeithio dyfod rhyw ddydd ei hunan yn fuddugol- iaethwr ar bawb o honynt yn y pethau a nodwyd, a thrwy hyny ddyfod yn wrthddrych edmygedd cyffredinol ynfydion y tir. Sonid llawer yn nghlywedigaeth gwrthddrych y cofiant hwn, am orchestion a chymwynasau y tylwythau teg dychmygol, ac am y swynyddion a'u dewiniaeth-eu gallu rhyfeddol i ddwyn pethau dirgel i oleuni, ac i daraw eraill à barn condemniad am eu trosedd. Credid y cwbl gan lawer, er nad oedd yr oll ond hoced a thwyll. Traethid wrtho am y lluaws ysbrydion oeddent yn weledig mewn lleoedd neillduol yn yr ardal, i lawr o'r lluaws ysbrydion hyny, y traethai yr henafgwr hygoelus hwnw am danynt, yr hwn a sicrhai ddarfod iddo weled myrdd o ysbrydion duon yn cerdded ymylon cantel llydan ei het, ond heb ei bensyfrdanu ganddynt, hyd at y bwgan sicr a hynod hwnw, a welid yn ymddangos wrth bont y Cilrhyd, ar ffurf dyn heb ben iddo. Nid yw yn gwbl hysbys pa ddyddordeb a gymerodd ein gwrthddrych yn y campau annuwiol y crybwyllwyd am danynt yn flaenorol; ac ni wyddis i ba raddau y credai efe yn