Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/539

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bechasant yn ddiddeddf, a gyfrgollir hefyd, yn ddi—ddeddf; a chynifer ag a bechasant yn y ddeddf a fernir wrth y ddeddf," Rhuf. ii. 12.

(1.) Neu yn ddiweddaf, pe gallai brofi nad oedd yn weithredydd rhydd, ond mai cael ei lusgo yn groes i'w duedd i bechu a wnaeth, a chael ei rwystro garu ei Greawdwr, er fod tuedd ei galon at hyny; byddai hyn eto yn ddigon i'w wneud yn rhydd o flaen y frawdle. Ond heb allu profi y pethau hyn, nis gall ddyfod byth yn rhydd. Dyma bedair craig fawr a chadarn yn sylfeini dyledswydd a chyfrifoldeb dynion, nad oes modd eu dadymchwelyd yn dragywydd, ond parhant yr un drwy bob cyfnewidiad fu ar ddyn; a pharhant felly tra bo dyn yn ddyn, a Duw yn Dduw.

(2.) Amcan grasol Duw yn gweithredu ar galon dyn ydyw ei ddwyn at ei ddyledswydd, "Am hyny, fy anwylyd, megys bob amser yr ufuddhasoch, nid fel yn fy ngŵydd yn unig, eithr yr awrhon yn fwy o lawer yn fy absen, gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain trwy ofn a dychryn, canys Duw yw yr hwn sydd yn gweithio ynoch, ewyllysio, a gweithredu o'i ewyllys da ef," Phil. ii. 12, 13.

(3.) Os bydd i ni aros heb garu Duw hyd nes y cawn sicrwydd fod Duw wedi dechreu gwaith cad—wedigol ynom, ni bydd i ni byth ddechreu; oblegid nid oes modd i ni adnabod ei waith ef ynom, ond wrth yr effeithiau, a dyna ydyw yr effeithiau, sef ein dwyn ni i ofyn, ceisio, a churo wrth borth trugaredd. Nid y peth cyntaf y mae Duw yn ei wneud ydyw dangos i ddyn ei fod wedi cael gras, ond dangos iddo ei fod mewn mawr angen am dano, a rhoi ysbryd i'w daer geisio.

(4.) Nis gallwn dreulio ein hoes i well perwyl nag i geisio trugaredd, pe byddem marw hebddi y diwedd; oblegid ni bydd neb yn dyoddef yn