Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/538

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

(1.) Y berthynas sydd rhwng dyn â Duw fel ei Greawdwr a'i Gynalydd, ac felly yn ymddibynu ar Dduw am bob peth bob mynudyn, ac o ganlyniad anocheladwy yn un o ddeiliaid ei lywodraeth.

(2.) Galluoedd naturiol, addas i wneuthur yr hyn y mae Duw yn ofyn. Nid eisieu gwell cof, neu well deall, gwell ewyllys, &c., fel cyneddfau, ydyw yr achos fod neb yn annuwiol, ond eisieu iawn ymarfer y galluoedd hyn sydd, er mwyn bod yn well.

(3.) Y moddion digonol sydd genym i wybod am Dduw, ac am ein dyledswydd tuag ato, sef creadigaeth, rhagluniaeth, a'i air.

(4.) Fod dyn yn weithredydd rhydd, hyny yw, yn rhydd i wneud a dewis yr hyn a ymddangoso oreu iddo, ac a fydd yn unol â'i natur, ac nad oes dim tu allan iddo yn ei yru i wneud y drwg, ond ei duedd ei hun, nac yn ei atal i wneuthur y da, ond diffyg ei duedd at y da. Pe medrai dynion, a hyny yn rhesymol a chyfreithlawn wadu y pethau uchod, ïe, un o honynt, gallent trwy hyny, ddadsylfaenu pob dyledswydd tuag at Dduw, dinystrio eu cyfrifoldeb, a dyfod yn wyr rhyddion yn

y farn ddiweddaf. Os gall unrhyw un yn y farn brofi na bu un berthynas rhyngddo à Duw fel ei Greawdwr a'i Gynalydd, ac yn ganlynol, na bu erioed yn un o ddeiliaid ei lywodraeth, gall ddyfod yn rhydd o flaen gorsedd ei Farnwr. Neu, os medr brofi na chynysgaeddwyd ef âg enaid addas i gyflawni ac ateb yr hyn oedd Duw yn ei ofyn iddo—na allodd ddim erioed, na chofiodd ddim erioed, na ddeallodd ddim, nad ewyllysiodd ddim, &c., byddai hyn yn ddigon i'w ryddhau o fod yn ddeiliad barn! Neu pe gallai brofi na bu erioed yn feddianol ar foddion o un math, na natur i wybod am Dduw a'i ewyllys, na chreadigaeth, na rhagluniaeth, na'r gair; yna gallai ddyfod yn rhydd, "Oblegid cynifer ag a