Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/537

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

II. Ymdrechaf ddangos, ER MAI DUW SYDD YN GWEITHREDU AR GALON DYN TRWY EI YSBRYD FEL Y DECHREUOL A'R GWIRIONEDDOL ACHOS O'I DROEDIGAETH ATO, NAD YDYW HYNY MEWN UN GRADD YN RHYDDHAU DYN ODDIWRTH EI DDYLEDSWYDD I GEISIO DUW, o herwydd—

1. Nid ar waith Ysbryd Duw y mae dyledswydd dyn wedi ei sylfaenu. Ni ddarfu pechod Adda, na'n pechodau gweithredol ninau dynu sylfaeni dyledswydd i lawr, oblegid buasai tynu sylfaeni dyledswydd i lawr, yn tynu ar unwaith sylfaeni cyfrifoldeb hefyd i lawr; ac os felly, nid oes neb o ddynolryw yn gyfrifol i'w Barnwr.

Y mae eu gwrthryfel wedi tori iau y llywodraeth oddiarnynt, ac nid oes arnynt rwymau mwyach, hyny yw, y mae gwrthryfel y creadur, wedi llwyr ddadym—chwelyd llywodraeth y Creawdwr, ond byddai dweyd hyn yn gabledd o'r mwyaf. Hefyd, pe byddai gras neu waith Ysbryd Duw yn y galon, yn sylfaen dyledswydd, byddai y diras yn rhydd, ïe, Belzebub a fyddai ryddaf o bawb; ac felly, yr hyn y mae gras yn ei wneud, ydyw rhoddi sylfaen i ddynion bechu; a bod heb ras, ydyw bod mewn sefyllfa anmhosibl i bechu, yr hyn eto sydd yn gabledd. Nid amcan Duw ynte wrth roddi

gras i bechadur ydyw codi sylfaen dyledswydd, ond ei dueddu i wneuthur yr hyn sydd ddyledus o'r blaen. Nid gras sydd yn ei gwneud yn ddyledswydd ar ddynion garu Duw a chredu yn Nghrist, ond gras sydd yn eu dwyn i wneud felly, yr hyn oedd rwym—edig arnynt yn flaenorol. Nid ydyw anallu pechadur ychwaith, neu ddiffyg tuedd at yr hyn sydd dda, yn rhyddhau neb oddiwrth ei ddyledswydd, nac yn lleihau ei rwymau fel creadur cyfrifol i Dduw. Y mae cyfrifoldeb a dyledswydd dynolryw wedi ei sylfaenu ar y pethau canlynol:—