rhagluniaeth yw yr achos, rhaid gofyn, Pa fodd na bai yr un amgylchiad yn effeithio yn yr un modd ar bawb? yr hyn nid ydyw mae yn ddigon amlwg.
3. A all mai rhyw ddamwain ddall a fu yr achos i benderfynu ei ddewisiad? Nid wyf yn tybied fod yr un Cristion a briodolai yr achos dechreuol iddo ddyfod yn dduwiol i ryw ddamwain.
4. Y mae Paul wedi ateb y gofyniad hwn i bob boddlonrwydd, "Canys Duw yw yr hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o'i ewyllys da ef," Phil. ii. 13. Felly y mae holl rediad yr Ysgrythyrau yn cyd-brofi mai o Dduw y mae. Eph. ii. 10, "Canys ei waith ef ydym." Eph. ii. 1, "A chwithau a fywhaodd efe, pan oeddych feirw mewn camweddau a phechodau." Eph. ii. 8, "Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd; a hyny nid o honoch eich hunain: rhodd Duw ydyw." Nis gellir gwadu hyn heb wadu Gair Duw.
5. Y mae esiamplau eglur y Gair yn dangos mai gweithrediadau neillduol a grymus Ysbryd Duw, ydyw y gwir achos o droedigaeth pechaduriaid, a hyny yn flaenorol i un weithred o eiddo y pechadur, megys pe y byddai yn paratoi ei hun i'r cyfryw weithrediadau. Pwy all sylwi ar droedigaeth Paul, ceidwad y carchar, Zacheus, Mathew, meibion Zebedeus, Lydia, ac eraill, heb ganfod llaw neillduol Duw yn y gwaith.
6. Y mae cydunol ymarferiad a phrofiad duwiolion yn profi hyn. Yr wyf yn meddwl fod pob dyn duwiol yn arfer gweddio, a diolch am droedigaeth pechaduriaid, yr hyn sydd yn gydnabyddiaeth ymarferol fod yr Arglwydd yn gwneuthur rhywbeth ar y rhai hyny yn fwy nag ar eraill; a dyma yw profiad y dyn duwiol pan y mae ei feddwl fwyaf ysbrydol a sanctaidd, mai Duw o'i ras a wnaeth ragor rhyngddo ef ag arall, ac nid efe ei hun.